![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 229, 240 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,054.88 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.1167°N 3.35°W ![]() |
Cod SYG | W04000248 ![]() |
Cod OS | SO080476 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Aberedw.[1][2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Gwy, lle mae Afon Edw yn ymuno â hi, ychydig i'r de-ddwyrain o dref Llanfair-ym-Muallt. Ceir olion castell yma, a adeiladwyd tua 1284, ond dinistriwyd llawer ohono i wneud lle i'r rheilffordd. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o tua'r 14g, i sant Cewydd.
Cysylltir yr ardal a'r digwyddiadau yn Rhagfyr 1282 pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri. Dywedir i Lywelyn lochesu ger Aberedw, ac mae ogof gerllaw a elwir yn Ogof Llywelyn.
Heblaw pentref Aberedw, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanbadarn Garreg a Rhiwlen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 219.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]