![]() | |
Math | pentref, cyrchfan lan môr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8239°N 4.5066°W ![]() |
Cod OS | SH312281 ![]() |
Cod post | LL53 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref sylweddol o faint yng nghymuned Llanengan, Gwynedd, Cymru, yw Abersoch[1][2] ( ynganiad ). Saif ar benrhyn Llŷn, ym mhen draw priffordd yr A499, 11 km (7 milltir) i'r dwyrain o dref Pwllheli a 43 km (27 milltir) o Gaernarfon. Enwir y pentref ar ôl aber Afon Soch, sy'n cyrraedd y môr yma ar ôl llifo trwy'r pentref.
Datblygodd Abersoch fel porthladd pysgota bychan, ond erbyn hyn twristiaeth yw’r prif ddiwydiant, yn enwedig hwylio. Daeth y pentref yn un o ganolfannau hwylio pwysicaf Prydain yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Oherwydd hyn mae nifer fawr o fewnfudwyr yn y pentref, wedi symud yno o Loegr yn bennaf, ac mae Cymreictod yr ardal a'r iaith Gymraeg wedi dioddef yn enbyd o ganlyniad.
Ceir nifer o siopau a lleoedd bwyta yn y pentref. Gellir hefyd cymryd taith mewn cwch i weld Ynysoedd Tudwal.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]