![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9581°N 3.4575°W ![]() |
Cod OS | SN999298 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Ysgir, Powys, Cymru, yw Aberysgir[1] (Saesneg: Aberyscir).[2] Saif yn ardal Brycheiniog tua 2 filltir i'r gorllewin o Aberhonddu ar lan Afon Wysg. Enwir y pentref ar ôl cymer neu aber Afon Ysgir (Ysgir Fawr) yn Afon Wysg, ger y pentref.
Ger y pentref ceir safel caer Rufeinig a adnabyddir fel Y Gaer (hefyd 'Caer Aberhonddu'/Brecon Gaer) a hen fwnt a beili, sef Castell Aberysgir.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]