Acathisia

Acathisia
Mathcynnwrf Edit this on Wikidata

Anhwylder symudol yw acathisia ac y mae ei symptomau nodweddiadol yn cynnwys teimlad o aflonyddwch mewnol ac anallu i aros yn llonydd. Fel rheol, effeithia'r coesau'n bennaf. Mae dioddefwyr yn debygol o fod yn aflonydd, maent yn siglo yn ôl ac ymlaen, a chamant hwy ar hyd ystafelloedd. Efallai y bydd dioddefwyr yn magu ymdeimlad mewnol o anesmwythder hefyd. Yn achlysurol, gall y fath gymhlethdodau arwain at hunanladdiad.[1]

Mae gwrthseicotigau, yn enwedig y genhedlaeth gyntaf o wrthseicotigau yn cael eu hystyried yn achosion blaenllaw. Gall achosion eraill gynnwys atalyddion detholedig adfer serotonin, metoclopramid, reserpine, clefyd Parkinson, ac os na thrinnir sgitsoffrenia. Mae'n bosib iddo gael ei achosi wrth atal gwrthseicotigau hefyd. Yn ôl y sôn, y mae ei fecanwaith sylfaenol yn cynnwys dopamin. Gwneir diagnosis yn seiliedig ar symptomau. Ceir gwahaniaethau rhwng y clefyd a'r syndrom 'aflonyddwch y coesau' oblegid nad yw acathisia yn gysylltiedig â chwsg.[2]

Wrth drin y cyflwr gellir newid teip y feddyginiaeth wrthseicotig i fath sy'n cyflwyno llai o risg o ddatblygu'r afiechyd. Mae tystiolaeth bendant wedi ei gyflwyno sy'n cefnogi defnyddioldeb rhai meddyginiaethau wrth drin y cyflwr, er enghraifft diphenhydramine, trazodone, benztropine, mirtazapine, a beta-atalyddion. Yn ôl rhai y mae fitamin B6 neu ddulliau cywiro diffyg haearn yn ddefnyddiol yn ogystal. Datblyga oddeutu hanner y bobl ar feddyginiaeth gwrthseicotig y cyflwr. Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf gan Ladislav Haškovec i ddisgrifio'r ffenomen ym 1901. Mae'n deillio o'r Roeg- a sef  "dim" a καθίζειν kathízein sy'n golygu "eistedd" neu mewn geiriau eraill "anallu i eistedd".

  1. Forcen, FE; Matsoukas, K; Alici, Y (February 2016). "Antipsychotic-induced akathisia in delirium: A systematic review.". Palliative & supportive care 14 (1): 77-84. doi:10.1017/S1478951515000784. PMID 26087817.
  2. Encyclopedia of Movement Disorders (yn Saesneg). Academic Press. 2010. t. 17. ISBN 9780123741059.

Acathisia

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne