Enghraifft o: | cyfnodolyn, sefydliad di-elw ![]() |
---|---|
Golygydd | Kalle Lasn ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1989 ![]() |
Dechreuwyd | 1989 ![]() |
Sylfaenydd | Kalle Lasn ![]() |
Pencadlys | Vancouver ![]() |
Rhanbarth | Vancouver ![]() |
Gwefan | http://www.adbusters.org ![]() |
![]() |
Corff Canadaidd nid-er-elw, gwrth-brynwriaethol, ac amgylcheddol[1] yw Adbusters Media Foundation. Cafodd ei sefydlu yn 1989 gan Kalle Lasn a Bill Schmalz yn Vancouver, British Columbia. Mae Adbusters yn disfrigio ei hun fel "rhwydwaith byd-eang o arlunwyr, ymgyrchwyr, ysgrifenwyr, pranksters, myfyrwyr, addysgwyr ac entrepreneuriaid sydd eisiau symud ymlaen ar ffurf mudiad cymdeithasol newydd yn yr oes wybodaeth."[2]
Caiff ei alw, gan rai, yn gorff gwrth-gyfalafol neu'n gorff sy'n gwrthwynebu cyfalafiaeth,[3] mae'n cyhoeddi'r cylchgrawn Adbusters, sydd â chylchrediad o 120,000. Mae'r cylchgrawn yn ymroddedig i herio prynwriaeth, ac yn rydd o hysbysebion, drwy gael ei chynnal gan ddarllenwyr. Mae cyfranwyr y cylchgrawn yn cynnwys Christopher Hedges, Matt Taibbi, Bill McKibben, Jim Munroe, Douglas Rushkoff, Jonathan Barnbrook, David Graeber, Simon Critchley, Slavoj Žižek, Michael Hardt, David Orrell ac eraill.
Mae Adbusters wedi lansio llawer o ymgyrchoedd rhyngwladol, sy'n cynnwys Buy Nothing Day, TV Turnoff Week ac Occupy Wall Street; mae hefyd yn cael ei adnabod oherwydd y subvertisements sydd ynddo - sy'n ffugio hysbysebion poblogaidd, a'i dafod yn ei foch. Yn Saesneg, mae gan Adbusters argraffiadau deufisol Americanaidd, Canadaidd, Awstralaidd, DU a fersiwn rhyngwladol. Mae chwaer-gyrff Adbusters yn cynnwys Résistance à l'Aggression Publicitaire[4] a Casseurs de Pub[5] yn Ffrainc, Adbusters Norge yn Norwy, Adbusters Sverige yn Sweden a Culture Jammers yn Siapan.[6][7]