Verdi yn arwain perfformiad o Aida ym Mharis tua 1880 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1872 |
Dechrau/Sefydlu | 1871 |
Genre | opera |
Cymeriadau | Aida, Amneris, Radamès, Brenin yr Aifft, Ramfis, Llais yr Archoffeiriades, Negesydd, Swyddog, Amonasro, Yr archoffeiriades, Offeiriaid ac offeiriaidesau |
Yn cynnwys | Celeste Aida |
Libretydd | Antonio Ghislanzoni |
Lleoliad y perff. 1af | Tŷ Opera Rhaglaw Cairo, Cairo |
Dyddiad y perff. 1af | 24 Rhagfyr 1871 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Memphis, Thebes |
Hyd | 2.5 awr |
Cyfansoddwr | Giuseppe Verdi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Aida yn opera a gyfansoddwyd gan Giuseppe Verdi ym 1871 gyda libreto Eidaleg gan Antonio Ghislanzoni. Mae'r opera yn adrodd hanes Aida, tywysoges o Ethiopia, sydd wedi cael ei wneud yn gaethferch yn yr Aifft. Mae cadfridog ym myddin yr Aifft, Radamès wedi syrthio mewn cariad ag Aida ac mae'n cael ei rwygo rhwng ei ddyletswyddau fel milwr teyrngar a'i chariad. Er mwyn cymhlethu'r stori ymhellach, mae merch y Brenin, Amneris, mewn cariad â Radamès, er nad yw'n dychwelyd ei theimladau.[1]