Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 14,777 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Armagh |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.34944°N 6.65444°W |
Cod post | BT60, BT61 |
Dinas yn Iwerddon yw Armagh (Gwyddeleg: Ard Mhacha),[1] a leolir yn Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon. Mae'n 'dref sirol' yr hen sir: cafodd statws dinas yn 1994 ac mae'n ganolfan weinyddol Dinas a Dosbarth Armagh. Ystyr yr enw Gwyddeleg yw 'Ucheldir Macha'. Poblogaeth: 54,263 (2001).
Ceir un o safleoedd archaeolegol pwysicaf Iwerddon yn Navan, ger y ddinas. Dyma Eamhain Mhacha, hen brifddinas talaith Wlster, sydd â lle amlwg ym mytholeg, traddodiadau a hanes y wlad.