Enghraifft o: | cangen o wyddoniaeth |
---|---|
Math | aerospace |
Yn cynnwys | aircraft construction, air traffic control |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr wyddor neu'r gelfyddyd o astudio, dylunio, a gwneud awyrennau yw awyrenneg (Saesneg: Aeronautics). Mae'r maes yn cynnwys: erodynameg, strwythurau awyrennau, systemau rheoli awyrennau, a dulliau gyrru.
Dechreuodd awyrenneg adeg y balŵn ysgafnach nag aer pan astudiwyd y dull hwn o godi corff i'r awyr drwy hynofedd. Yn hwyrach datblygwyd awyrennau trymach nag aer: gleiderau, yr eroplen, Amrodyr (multirotors) fel yr hofrennydd a rocedi.[1]