Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 20,290 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Lanark |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.8206°N 4.0283°W |
Cod SYG | S19000521 |
Tref yng Ngogledd Swydd Lanark, yr Alban, yw Bellshill.[1] Fe'i lleolir tua 10 milltir (16 km) i'r de-ddwyrain o ganol dinas Glasgow. Trefi cyfagos eraill yw Motherwell (2 filltir; 3 km), Hamilton (3 milltir; 5 km) a Coatbridge (3 milltir; 5 km)
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 20,770.[2]
Yn ystod y 18g roedd y dref yn ganolfan ar gyfer gwehyddu, ond yn ystod y 19g disodlwyd y fasnach honno gan gloddio am lo; erbyn yr 1870au roedd 20 o byllau dwfn ar waith yn yr ardal. Roedd cynhyrchu haearn a dur yn bwysig hefyd.