Enghraifft o: | smartphone model series |
---|---|
Math | ffôn clyfar |
Dechrau/Sefydlu | 1999 |
Gwneuthurwr | BlackBerry |
Gwefan | http://www.blackberry.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Teulu o ddyfeisiau e-bost symudol a ffonau clyfar yw BlackBerry (neu'r Fiaren fel y caiff ei hadnabod ar lafar), a ddatblygwyd ac a gynlluniwyd gan gwmni o Ganada, sef Research In Motion (RIM) ers 1999.
Mae'r ddyfais hon yn amlbwrpas, gan ei bod yn gweithredu fel cymorthydd digidol personol (personal digital assistants), chwaraewr-cyfryngau symudol (portable media players), porwyr gwe (internet browsers), dyfais chwarae gemau (gaming devices), a llawer mwy. Caiff y fiaren ei brolio'n aml am ei gallu i dderbyn a gwthio ebyst a negeseuon parod (instant messages) (megis Blackberry Messanger) gan gynnal safonau diogelwch uchel iawn drwy amgrypto'r data yn y ddyfais ei hun.
Daeth y ffôn yn boblogaidd dros nos gan fusnesau a'r byd diwydiannol, ond yn hytrach na chanolbwyntio ar hynny, ymledodd ei hadennydd i gystadlu gydag IPhone ac Android i ennill cwsmeriaid cyffredin gyda gogwydd at gemau a'r angen am raglenni 'cyfryngol' e.e. fideo ac apps.[1]