Math | plasty gwledig, gardd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Stad Botryddan |
Lleoliad | Diserth |
Sir | Rhuddlan |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 26.6 metr |
Cyfesurynnau | 53.2973°N 3.43282°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasdy hynafol ar gyrion pentref Diserth, ger Rhuddlan, Sir Ddinbych, yw Botryddan (ffurf amgen mewn rhai llyfrau: Bodrhyddan). Roedd yn gartref i'r Conwyaid, teulu uchelwrol dylanwadol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid.
Mae'r plasdy yn sefyll tua chwarter milltir i'r gorllewin o Ddiserth. Mae'r adeiladwaith yn cynnwys rhannau o'r plasdy gwreiddiol a godwyd yn y 15g. Cafodd ei ehangu a'i drawsnewid yn sylweddol yn yr arddull newydd-glasurol yn y 18g ac yn enwedig yn y ganrif olynol. Ceir ffynnondy yno sydd yn waith y pensaer Inigo Jones, efallai.
Er gwaethaf ei enw, teulu o estroniaid oedd y Conwyaid i ddechrau, ond daethant i chwarae rhan amwlg ym mywyd diwyllianol gogledd Cymru, yn enwedig fel noddwyr y beirdd. Aelod amlycaf y teulu yn y cyswllt hwn oedd Siôn Conwy III (c. 1546 - 1606), mab Siôn Conwy II, AS Sir y Fflint. Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o Feirdd yr Uchelwyr, gan gynnwys Simwnt Fychan a Siôn Tudur.