Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Louis-Antoine de Bougainville |
Poblogaeth | 234,280 |
Cylchfa amser | UTC+10:00, Pacific/Bougainville |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Arwynebedd | 9,318 km² |
Uwch y môr | 2,715 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 6.2444°S 155.3839°E |
Hyd | 204 cilometr |
Ynys yn perthyn i Papua Gini Newydd yw ynys Bougainville. Gydag ynys lai Buka mae hefyd yn un o daleithiau Papua Gini Newydd. Yn ddaearyddol, mae'n rhan o Ynysoedd Solomon. Mae gan yr ynys arwynebedd o 9.318 km² ac roedd y boblogaeth yn 2000 yn 175,160. Prifddinas y dalaith ar hyn o bryd yw dinas Buka, er fod bwriad i adfer yr hen brifddinas, Arawa, fel prifddinas. Y copa uchaf yw Mynydd Balbi, 3,123 medr.
Enwyd yr ynys ar ôl y fforiwr Ffrengig Louis Antoine de Bougainville, yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ynys yn 1768. Dath dan fandad Awstralia yn ddiweddarach. Meddiannwyd yr ynys gan luoedd Japan yn 1942 ai'i hadfeddiannu gan Awstralia yn 1945. Yn 1949, ymgorfforwyd yr ynys yn nhiriogaeth Papua-Gini Newydd, oedd dan reolaeth Awstralia.
Yn 1969, datblygodd gwrthwynebiad ymhlith y boblogaeth i'r cwmniau mwyngloddio oedd yn berchenogion dros hanner yr ynys, a gwaethygodd y sefyllfa yn 1972, gyda streic gyffredinol. Yn 1975, cyhoeddodd yr awdurdodau lleol annibyniaeth yr ynys (gydag ynys Buka) fe; "Gweiniaeth Gogledd Solomon". Wedi cytundeb a Papua-Gini Newydd, cytunwyd i ddileu'r weriniaeth o dod yn dalaith ymreolaethol o Papua-Gini Newydd.
Fodd bynnag, parhaodd y problemau gyda'r cwmniau mwyngloddio, ac yn 1990 cyhoeddodd yr ynys ei hanibyniaeth am yr ail tro, fel "Gweriniaeth Bougainville". Yn fuan wedyn, newidiwyd yr enw i "Weriniaeth Meekamui". Wedi trafodaethau heddwch, dychwelodd yr ynys i fod yn rhanbarth o Papua-Gini Newydd yn 2005, ond gyda mesur helaethach o hunanlywodraeth.