Enghraifft o: | Talgrynnu |
---|---|
Math | decimal representation, dull |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn mathemateg, mae brasamcan (neu fras amcan), fel arfer, yn rhif sy'n debyg, ond nid yn union hafal i rif arall, gwneir hyn yn aml wrth dalgrynnu. ; ar lawr gwlad, dywedir fod hi bron neu tua 10 o'r gloch. Defnyddir y gair 'bras' (sy'n hen air am 'fawr') ar ei ben ei hun, weithiau i gyfleu hyn, weithiau, e.e. "Gallaf roi syniad bras i chi o drefn y cyfarfod." Mae geiriadur Daniel Silvan Evans (1852) yn nodi mai 'brasgyfri' ydyw estimate, a chyn hynny, yn 1831, mae'r Gwyliedydd yn sôn am 'daflu brasamcan ar y cyfri'.[1] Mae sawl iaith wedi bathu'r gair Lladin approximatus, a proximus a olygai'n wreiddiol rhywbeth a oedd "yn debyg iawn" i rywbeth arall.[2][3]
Fe'i dynodir yn aml gyda'r symbol ≈, sef amrywiad ar yr hafaliad arferol, ac sy'n cyfleu'r syniad bras. Gair tebyg yw 'amcangyfrif' (estimate). Er mai ym myd rhifau y'i defnyddir fel arfer, gall hefyd gael ei ddefnyddio wrth drin a thrafod siapau neu ffwythiannau mathemategol.