Bwl

Bwl a gyhoeddir gan y Pab Urbanus VIII ym 1637.

Llythyr neu ddogfen swyddogol a gyhoeddir gan Bab yr Eglwys Gatholig yw bwl.[1] Daw'r enw o'r sêl blwm (Lladin: bulla) a osodir arno. Ers y 12g, defnyddir yr enw bwl ar ddogfen gan y Pab a chanddi selnod sy'n dangos pennau'r apostolion Pedr a Paul ar un ochr a llofnod y Pab ar yr ochr arall.[2]

  1.  bwl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) bull, papal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.

Bwl

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne