Bwrdeistref

Bwrdeistref
Enghraifft o:dynodiad ar gyfer endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Mathendid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Caernarfon, un o fwrdeistrefi enwocaf Cymru, map o 1610 yn debyg i'r hen fwrdeistref ganoloesol
Caernarfon, un o fwrdeistrefi enwocaf Cymru, map o 1610 yn debyg i'r hen fwrdeistref ganoloesol

Math ar awdurdod lleol yw bwrdeistref. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae bwrdeistref (sillafir hefyd fel bwrdeisdref) yn golygu: "Tref sy'n meddu corfforaeth a breiniau wedi eu hawdurdodi gan siarter frenhinol; tref a chanddi hawl i ddanfon cynrychiolydd i'r senedd."[1] Mae'n gytras â'r gair Saesneg borough a defnyddir y gair bwrgaisdref ar adegau sy'n agosach i'r Saesneg wreiddiol.

Bellach, mae'r term "bwrdeistref" yn meddu ar sawl diffiniad sy'n gallu amrywio'n gynnil o wlad i wlad ac oes i oes.

Caiff pennaeth, neu'n aml, gadeirydd, y fwrdeistref ei chynrychioli gan swydd y maer.

  1.  bwrdeistref. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021.

Bwrdeistref

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne