Enghraifft o: | carfan bwyso, peace organization, anti–nuclear weapons movement, sefydliad anllywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Tachwedd 1957 |
Ffurf gyfreithiol | cwmni preifat sy'n gyfyngedig drwy warant |
Pencadlys | Llundain |
Enw brodorol | Campaign for Nuclear Disarmament |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://cnduk.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, 1951-1979 | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mudiad a sefydlwyd er mwyn ceisio dwyn perswâd ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar arfau niwclear yw'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear neu CND (Saesneg: Campaign for Nuclear Disarmament), a sefydlwyd yn 1958.
Ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, dan arweinyddiaeth y Canon John Collins a'r athronydd Bertrand Russell, trefnwyd nifer o wrthdystiadau mawr yn erbyn polisi arfau niwclear Prydain, ac yn enwedig yn erbyn canolfan ymchwil arfau niwclear Aldermaston.
Cafodd y mudiad gyfnod tawelach wedyn tan ddechrau'r 1980au a chyfnod llywodraeth Geidwadol asgell-dde Margaret Thatcher. Cydsyniodd Thatcher i gais Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i osod taflegrau Cruise niwclear ar dir Prydain. Arweiniodd hyn at greu mudiad heddwch, yn glymblaid answyddogol o grwpiau, gyda CND yn chwarae'r rhan flaenllaw. Arweinyddion amlycaf y cyfnod hwnnw oedd Bruce Kent a Joan Ruddock. Yng Nghymru roedd CND Cymru yn gweithredu fel cangen led-annibynnol o'r mudiad Prydeinig. Cafwyd protestiadau mawr ar y strydoedd ledled gwledydd Prydain ac mewn gwersylloedd milwrol fel Comin Greenham a Molesworth.
Mae'r mudiad wedi bod yn llai amlwg ers y 1980au ond yn dal i drefnu protestiadau mewn llefydd fel Canolfan y Llynges yn Faslane yn yr Alban lle cedwir llongau tanfor Trident, a hefyd yn y gwrthdystiadau yn erbyn y rhyfel yn Irac.