Math | natural region of France, parçan of Occitania, gwlyptir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Camargue |
Sir | Bouches-du-Rhône |
Gwlad | Ffrainc |
Gerllaw | Afon Rhône |
Cyfesurynnau | 43.5333°N 4.5°E |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Ardal yn ne Ffrainc o gwmpas aber afon Rhône, yn département Bouches-du-Rhône, yw'r Camargue. Wrth ddynesu at y Môr Canoldir, mae afon Rhône yn ymrannu yn ddwy ran, y Grand-Rhône a'r Petit-Rhône. Rhennir y Camargue, sydd ag arwynebedd o 145.300ha i gyd, yn dri rhan:
Yng ngogledd yr ardal ceir tiroedd amaethyddol, tra yn y de mae corsydd hallt. Mae'r ardal o bwysigrwydd mawr ar gyfer planhigion ac adar, a chrewyd y Parc naturel régional de Camargue yn 1970. Ymhlith ei nodweddion enwocaf, mae'r ceffylau gwynion.
Bu'r naturiaethwr o Gymro Peter Hope Jones yn warden gwirfoddol yma yn 1958.