Enghraifft o'r canlynol | math o ystadegau |
---|---|
Math | Canolduedd, quantile |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mesuriad o ganolduedd yw canolrif: gwerth sy'n rhannu nifer o rifau yn eu hanner, o ran gwerth: fe'u rhenir yn rifau uchel a rhifau isel. Dyma'r nifer (neu'r sgôr) sydd yng nghanol y raddfa pan fo'r gwerthoedd wedi'u trefnu'n rhifyddol. Fe'i defnyddir yn aml gyda set data o bobl neu ddosbarthiad tebygolrwydd. I bob pwrpas, gellir ei ystyried i fod y "gwerth yn y canol".
Er enghraifft, mewn set ddata {1, 3, 3, 6, 7, 8, 9}, y canolrif yw 6.
Mantais sylfaenol y canolrif o'i gymharu â'r cymedr (a ddisgrifir yn aml fel y "cyfartaledd") yw nad yw'n cael ei ddylanwadu gan werthoedd hynod fawr neu fychan iawn, ac felly gall roi gwell syniad i ni o werth "nodweddiadol". Er enghraifft, wrth ddeall ystadegau fel incwm y cartref, sy'n amrywio'n fawr, gellir dylanwadu (neu 'sgiwio') cymedr gan nifer fychan o werthoedd uchel neu isel iawn. Gall cyfanrif incwm, ar y llaw arall, fod yn ffordd well o awgrymu beth yw'r incwm "nodweddiadol".
Oherwydd hyn, ystyrir y canolrif yn wirioneddol bwysig i'r ystadegwr go-iawn. Mae'n effeithiol cyn belled nad oes dros 50% o'r data wedi'i halogi, ac ni all roi canlyniad mympwyol rhy fawr na rhy fach.