Cariamiformes Amrediad amseryddol: Cretasiaidd hwyr - Holosen, 66–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Seriema coesgoch, Cariama cristata | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cariamiformes |
Teuluoedd | |
Cariamoidea |
Urdd o adar na fedrant hedfan yw'r Cariamiformes (neu weithiau Cariamae). Mae'r urdd hon wedi bodoli ers dros 60 miliwn o flynyddoedd. Mae'n cynnwys y teulu Cariamidae (seriemas) sy'n fyw heddiw a theuluoedd darfodedig e.e. Phorusrhacidae, Bathornithidae, Idiornithidae a Ameghinornithidae.
Ystyriwyd y grwp hwn yn is-urdd o'r Gruiformes ar un cyfnod, ond mae astudiaethau o'u siap a'u geneteg yn dangos eu bod yn perthyn i grwp hollol wahanol - yr Australaves,[3] grwp sy'n cynnwys: Falconidae, Psittaciformes a Passeriformes, ac mae rhywogaethau o'r teuluoedd hyn yn fyw heddiw.[4]
Atgyfnerthwyd y canfyddiad hwn yn 2014.[5] Roedd yr astudiaeth yn dangos fod y Cariamiformes yn hynafiaid i'r Australaves, a'r hebogiaid wedyn.