Baner Garlaidd o Drydydd Rhyfel y Carliaid, y faner drilliw gyda'r geiriau dios, patria, rey (Duw, gwlad, brenin). | |
Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol, mudiad gwleidyddol, sefydliad arfog |
---|---|
Math | Traditionalism |
Gwlad | Sbaen |
Dechrau/Sefydlu | 1830 |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth Sbaen, Sbaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad gyda'r nod o sefydlu cyff arall o frenhinllin y Bourboniaid, sef Carlos María Isidro de Borbón, "Don Carlos", Cownt Molina (1788–1855) a'i ddisgynyddion, ar orsedd Sbaen oedd Carliaeth (Sbaeneg: carlismo, Catalaneg: carlisme, Basgeg: karlismo, Galiseg: carlismo) a ffynnai yn y 19g, yn gysylltiedig ag athrawiaeth geidwadol tradicionalismo. Ymgododd ymhlith tueddiad gwrth-ryddfrydol yr apostólico yn y glerigiaeth, ac ym 1827 ffurfiwyd lledfilwyr y Gwirfoddolwyr Brenhinol.[1] Yn y 1830au, ymlynodd y garfan hon â Don Carlos, brawd iau'r Brenin Fernando VII, gan gefnogi ei hawl i etifeddu'r orsedd o flaen merch Fernando. Wedi marwolaeth Fernando VII ym 1833, ac esgyniad ei ferch Isabella II i'r orsedd, cychwynnodd Rhyfel Cyntaf y Carliaid. Daeth hwnnw i ben ym 1840 gyda buddugoliaeth y Christinos, cefnogwyr Isabella. Cafwyd dau wrthdaro arall ar raddfa lai, Ail Ryfel y Carliaid neu Ryfel y Matiners (1846–49) a'r Trydydd Rhyfel (1872–76). Câi'r mudiad ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth yr adain dde yn Sbaen, ac ymgyfunodd gweddillion y Carliaid â'r Ffalanche ym 1937.
Wrth i wrthwynebiad i ryddfrydiaeth gynyddu yn y deyrnas yn y 1830au, cefnogodd y Gwirfoddolwyr Brenhinol hawl Don Carlos—felly'r enw "Carliaid"—i olynu ei frawd hŷn i'r orsedd, oni bai y byddai Fernando yn cael mab, yn unol â'r hen gyfraith Salig o flaenoriaethu gwrywod yn yr olyniaeth frenhinol, y drefn yn Sbaen ers gorchymyn Felipe V ym 1713. Byddai hynny'n groes i'r Datganiad Pragmatig a gyhoeddwyd gan Fernando ym 1830 a gadarnhaodd benderfyniad ei ragflaenydd, Siarl IV, ym 1789 i ddirymu'r gyfraith Salig ac felly cynnwys merched yn olyniaeth coron Sbaen. Dim ond dwy ferch, Isabella (ganed 1830) a Luisa Fernanda (ganed 1832), a gafodd Fernando a'i wraig María Cristina cyn iddo farw ym 1833.
Datblygodd Carliaeth yn fudiad gwleidyddol a chymdeithasol ehangach, gan arddel tra-cheidwadaeth, amddiffyn yr Eglwys Gatholig, ac ymreolaeth ranbarthol.