![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llandderfel ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.934°N 3.54°W ![]() |
Cod OS | SH965385 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Llandderfel, Gwynedd, Cymru, yw Cefnddwysarn[1] ( ynganiad ) (neu Cefn-ddwysarn).[2] Saif yn ardal Meirionnydd tua tri chwarter milltir i'r de-orllewin o bentref Sarnau ar briffordd yr A494 a rhyw dair milltir i'r dwyrain o'r Bala.
Rhwng y ddau bentref mae Cors y Sarnau. I'r gogledd mae bryn Cefn Caer-Euni â'i fryngaer fechan Caer Euni (neu Eini). I'r gorllewin mae tref Y Bala a Llyn Tegid ac ar orwel y dwyrain rhed llethrau cadarn Y Berwyn. Mae twmpath - safle castell pren efallai - ar ymyl Cefnddwysarn i'r de.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]