Enghraifft o'r canlynol | scientific technique |
---|
Techneg ddyddio sy’n defnyddio cen i ddyddio wyneb yw cenfetreg. Mantais cenfetreg yw ei chymhwysedd eang, ei chydraniad a’i manylrwydd amseryddol uchel. Mae cenfetreg yn dechneg ddyddio sydd wedi ei defnyddio’n aml mewn nifer o sefyllfaoedd megis dyddio marian ac amgylcheddau afonol. Datblygwyd y dechneg yn bennaf gan y botanegydd a’r daearegwr Roland Beschel yn yr 1950au ar gyfer dyddio ymestyniad rhewlifol yn yr Alpau. Er i’r dechneg gael ei haddasu o’r cyfnod cynnar mae’r tyb sylfaenol yn aros sef bod perthynas yn bodoli rhwng diamedr talws y cen mwyaf sy’n tyfu ar y wyneb a’r amser mae’r wyneb wedi bod yn agored i gytrefu. Mae’r gymhareb o amser yn erbyn maint y talws yn galluogi i ni benderfynu’r gyfradd dwf.
Un dechneg yw mesur y cennau mwyaf sy’n bresennol gan fod diamedr mwyaf y talws yn dangos tyfiant y cen mewn modd mwy dibynadwy oherwydd, mewn theori, y cen mwyaf ddylai fod yr hynaf ac felly’r agosaf i’r amser pan ddyddodwyd y glogfaen. Byddai hyn yn rhoi amcangyfrif o isafswm yr amser mae’r wyneb a gytrefwyd wedi bod yn agored a sefydlog. Mae’r ffaith bod cennau ar wyneb clogfaen yn cael eu dinistrio pan fo’r glogfaen yn cael ei gludo yn ystod llifogydd, yn ein galluogi i ddeall pryd oedd y tro diwethaf i’r glogfaen gael ei gludo, drwy ddefnyddio oedran y cen hynaf sy’n bresennol. Mae problemau yn codi pan mae’r cennau yn tyfu ochr yn ochr ac yn cyfuno. Pan fo hyn yn digwydd, dylid mesur y cylchoedd arysgrifenedig mwyaf, ond os nad yw hyn yn bosibl dylid eu gwaredu gan y byddai hynny’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch oedran sy’n seiliedig ar faint, yn annilys. Yn ogystal, mae llygredd aer hefyd yn peri problemau wrth i’r cen dyfu ac yn effeithio ar ddilysrwydd y dull.
Defnyddir cromlin tyfiant i gyfrifo’r berthynas rhwng diamedr un math o gen a’i oedran. Mae angen cromlin gwahanol ar gyfer rhywogaethau gwahanol. Cyfrifir y berthynas drwy gymryd mesuriadau nifer o gennau ar gerrig beddau mewn mynwentydd yng nghyffiniau’r astudiaeth. Y rheswm am hyn yw bod dyddiad ar y garreg fedd yn rhoi dyddiad penodol i faint penodol o gen. Bydd hyn yn rhoi tyfiant cyfartalog i’r holl gen a fesurwyd. Bydd maint cennau o ddyddiadau hysbys yn creu cromlin tyfiant y gellir ei defnyddio i gyfrifo dyddiad cennau ar wynebau o ddyddiadau anhysbys.
Wrth ddyddio wynebau sydd rhwng 120 a 200 mlwydd oed mae potensial cyfeiliornad rhwng ±3 a ±5 blwyddyn, ond mae hyn yn cynyddu i ±10 a ±20 blwyddyn i wynebau sydd rhwng 200 a 400 mlwydd oed.
Mae cenfetreg wedi cael ei defnyddio mewn geomorffoleg i ddyddio tirffurfiau llawr dyffryn, dyddodion cerlan, i adnabod cyfnodau cyforlan a newidiadau mewn sianeli unigol. Mae wedi cael ei defnyddio yn helaeth i ddyddio llifogydd mewn astudiaethau geomorffolegol o lifogydd hanesyddol yn uwchdiroedd Prydain. Mae’r rhain yn cynnwys llif-weddillion llethr yn Nant Ffrancon (Eryri), yn An Teallach, y Cairngorms a Glencoe (Uwchdir yr Alban) ac ysgafellau clogfeini (dyddodion bras wedi eu gosod gan ddŵr) sydd yn aml wedi’u cadw mewn ffrydiau mynyddig ym Mro’r Llynnoedd, Gogledd y Pennines, Yorkshire Dales a Bannau Brycheiniog.