Cheddar

Cheddar
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Sedgemoor
Poblogaeth5,755, 6,264 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVernouillet, Felsberg, Ocho Rios Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaBryniau Mendip Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.2785°N 2.7777°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04008617 Edit this on Wikidata
Cod OSST458535 Edit this on Wikidata
Cod postBS27 Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y dref yw hon. Am y caws gweler Caws Cheddar.

Pentref a phlwyf sifil yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Cheddar.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Sedgemoor. Saif ar ymyl y Bryniau Mendip, 15 km (9 milltir) i'r gogledd-orllewin i Wells. Mae'r pentref wedi lleoli tu fewn i Geunant Cheddar, ceunant mwyaf Lloegr, ac o'i gwmpas. Mae Cronfa Ddŵr Cheddar yn gartref i nifer o rywogaethau o adar dŵr. Mae Ogofâu Wookey Hole yn gorwedd gerllaw.

Poblogaeth y pentref yw 5,199 (2011).[2]

Mae'n enwog am roi ei enw i gaws Cheddar, un o'r mathau o gaws mwyaf poblogaidd. Dim ond un cynhyrchydd caws sydd yn y pentref ar hyn o bryd. Cynnyrch pwysig arall yr ardal yw syfi.

  1. British Place Names; adalwyd 27 Awst 2021
  2. City Population; adalwyd 12 Tachwedd 2017.

Cheddar

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne