Planhigyn neu gynnyrch planhigyn a dyfir a'i gynaeafir er elw neu ymgynhaliaeth yw cnwd. Ceir chwe chategori:
- Cnydau bwyd i bobl, er enghraifft gwenith a thatws;
- Cnydau bwyd i dda byw, er enghraifft ceirch ac alffalffa;
- Cnydau ffibrau, i wneud rhaffau a thecstilau, er enghraifft cotwm a chywarch;
- Cnydau olew, er bwyd neu ddiwydiant, er enghraifft had cotwm neu ŷd;
- Cnydau addurnol, er garddlunio, er enghraifft cwyros ac asalea; a
- Chnydau diwydiannol ac eilaidd, er defnydd personol a diwydiannol, er enghraifft rwber a thybaco.[1]
- ↑ (Saesneg) crop (agriculture). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Awst 2014.