Cnwp-fwsogl

Cnwp-fwsoglau
Cnwpfwsogl mawr (Huperzia selago)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Lycopodiophyta
Dosbarth: Lycopodiopsida
Urddau a theuluoedd

Urdd: Lycopodiales

Urdd: †Drepanophycales

Planhigion anflodeuol o'r dosbarth Lycopodiopsida yw cnwpfwsoglau[1] neu glwbfwsoglau[2]. Mae gan y dosbarth tua 400 o rywogaethau sy'n tyfu ledled y byd, yn arbennig mewn rhanbarthau trofannol.[3] Mae ganddynt ddail bach, syml a choesynnau canghennog. Yn annhebyg i fwsoglau go iawn, mae ganddynt wreiddiau a meinwe fasgwlar.[4]

  1. Heb gysylltnod: Geiriadur yr Academi, Y Geiriadur Mawr; gyda chysylltnod: GPC.
  2. Y Termiadur Addysg, d.g. ‘club-moss’.
  3. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
  4. Blamey, Marjorie; Richard Fitter & Alastair Fitter (2003) Wild Flowers of Britain and Ireland, A & C Black, Llundain.

Cnwp-fwsogl

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne