Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Coety

Coety
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCoety Uchaf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5212°N 3.5525°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS923814 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSarah Murphy (Llafur)
AS/au y DUJamie Wallis (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Coety Uchaf, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Coety[1] (Saesneg: Coity).[2] Saif Mynydd Coety (y ffin) gerllaw, gyda'i gopa'n ffin rhwng Castell-nedd a Chas-gwentcyfeiriad grid SO232080.

Roedd yma boblogaeth o 2,071 yng Nghyfrifiad 2011.

Yn y pentref mae Castell Coety, lle bu'r fyddin Gymreig, dan arweiniad y Tywysog Owain Glyn Dŵr yn gwarchae am dros flwyddyn a thri mis; yma hefyd y defnyddiwyd powdwr gwn yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddus.

Mae'r hen eglwys, y Santes Fair, yn dyddio i'r 14g.[3] Ceir yma hefyd heneb llawer hynach, sef siambr gladdu ger coedwig Coed Parc Garw. Ceir carreg draws sy'n gwyro i fyny rhyw ychydig a nifer o gerrig llai sy'n ei gynnal.[4]

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 3 Gorffennaf 2023
  2. British Place Names; adalwyd 3 Gorffennaf 2023
  3. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: University of Wales Press. t. 160. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  4. Daniel, Glynn (1950). The prehistoric chamber tombs of England and Wales. Cambridge: Cambridge University Press. t. 210.

Previous Page Next Page






Coity CEB Coity English Coity EU Coity Swedish

Responsive image

Responsive image