Drwm tal a chul gydag un groen yw'r conga (lluosog: congas neu congâu). Daw o Giwba a chredir ei fod yn tarddu o'r Makuta neu ddrymiau tebyg a gysylltir â Chiwbawyr Affricanaidd â llinach o Ganolbarth Affrica. Defnyddir congas yng ngherddoriaeth grefyddol Affro-Garibïaidd, Rumba, salsa, merengue, Reggaeton, a nifer o fathau eraill o gerddoriaeth America Ladin.