Eglwys plwyf Cosheston | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 830 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6964°N 4.8889°W |
Cod SYG | W04000420 |
Cod OS | SN004037 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Cosheston.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Penfro a ger Cilfach Cosheston neu Cosheston Pill, sy'n arwain i mewn i Afon Cleddau.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Upton a Nash. Ceir rhannau o gastell o'r 13g wedi ei ymgorffori ym mhlasdy Upton. Roedd poblogaeth y gymuned yn 713 yn 2001.
Mae gan y plwyf arwynebedd o 813 hectar ac mae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Sant Mihangel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]