Dyn mewn gwisg ystrydebol croesan ym Mhasiant Llanfair-ym-Muallt (1909). | |
Enghraifft o: | hen broffesiwn, stock character |
---|---|
Math | diddanwr, digrifwr, jongleur |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digrifwr a gedwid yn hanesyddol i adlonni teulu brenhinol neu lys brenhinol neu bendefigaidd yw croesan,[1] ysgentyn,[2] digrifwas,[3] neu ffŵl. Gellir olrhain gwreiddiau'r ffŵl yn ôl i'r Henfyd, ac mae rôl y digrifwr llys yn dyddio'n ôl i pharoaid yr Hen Aifft.
Daeth ffigur y croesan yn gymeriad pwysig mewn llên a theatr, gan esgor ar draddodiad o lenyddiaeth y ffŵl a flodeuai o'r 15g i'r 17g. Yn Lloegr, daeth y croesan yn gymeriad cyffredin ar y llwyfan yn oesoedd Elisabeth ac Iago, gan gynnwys comedïau, trasiedïau, a dramâu hanes William Shakespeare: Touchstone yn Bid Wrth Eich Bodd, Feste yn Nos Ystwyll, a'r cellweiriwr dienw yn King Lear. Cyhoeddodd yr actor digrif Robert Armin, a bortreadai nifer o ffyliaid Shakespeare, hanes o groesaniaid o'r enw Foole upon Foole.