![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9812°N 4.0405°W ![]() |
Cod OS | SH631446 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Llanfrothen, Gwynedd, Cymru, yw Croesor[1][2] ( ynganiad ). Saif yng Nghwm Croesor wrth droed Cnicht a'r Moelwyn Mawr yng Ngwynedd. Mae'r boblogaeth tua 105. Roedd yno un ysgol gynradd a chapel. Caewyd y naill yn 2010 a'r llall yn 2016, a chaeodd yr is-swyddfa bost yn 1980. Gellir cyrraedd yno ar hyd dwy ffordd fechan; yr un mwyaf hwylus o'r Garreg a'r llall, dros y mynydd o Tan-y-bwlch. Yn y 18g roedd ffordd dyrpeg yn cysylltu Tan y Bwlch â Nantmor yn mynd trwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Datblygodd y pentref gyda thŵf y chwareli llechi yn y 19g. Mae sawl chwarel yn y cylch, yn enwedig Chwarel Croesor a Chwarel Rhosydd. Agorwyd Chwarel Croesor yn 1856 a daeth yn eithaf llewyrchus dan reolaeth Moses Kellow ar droead yr 20g. Adeiladwyd trac tram i ddod a'r llechi i lawr o'r chwarel a datblygwyd y pentref ymhellach gan Hugh Beaver Roberts, perchennog stâd Croesor.
Efallai fod y pentref yn fwyaf enwog fel cartref Bob Owen, Croesor y casglwr llyfrau ac ysgolhaig.
Agorwyd Ysgol Gynradd Croesor ym 1873, a caewyd yn 2008 oherwydd diffyg disgyblion.[5]