Mae cynllunio'n broses ymenyddol sy'n ymwneud â threfnu set o feddyliau er mwyn cyrraedd rhyw nod arbennig. Mae'n rhinwedd sy'n bodoli mewn bodau dynol ac anifeiliaid ac yn rhan o'r hyn a elwir yn "grebwyll" neu "ddealltwriaeth" sydd hefyd yn ymwneud â rhagfynegi a sut i baratoi gweithdrefnau arbennig.[1] Yr hyn sy'n groes i gynllunio yw ymateb yn fyrfyfyr ac yn ddifeddwl.