Mudiad ym marddoniaeth Unol Daleithiau America a Lloegr yn nechrau'r 20g oedd Delweddiaeth neu Imagistiaeth[1] a oedd yn ffafrio delweddaeth fanwl ac iaith eglur, graff. Ystyrir mai dyma'r mudiad llenyddol modernaidd cyfundrefnol cyntaf yn yr iaith Saesneg.[2] Weithiau gwelir Delweddiaeth fel "cyfres o adegau creadigol" yn hytrach na chyfnod di-dor neu ddatblygiad cyson o dueddiadau llenyddol. Meddai'r academydd Ffrengig René Taupin, "mae'n gywirach ystyried Delweddiaeth nid fel athrawiaeth, nac hyd yn oed fel ysgol farddol, ond fel cymdeithas o ychydig o feirdd a fu am gyfnod penodol yn cytuno ar nifer fach o egwyddorion pwysig".[3]
Gwrthododd y Delweddwyr y farddoniaeth deimladwy a gwasgarog a oedd yn nodweddiadol o Ramantiaeth ac Oes Fictoria. Yn wahanol i'w cyfoedion "Sioraidd"—y criw o feirdd a flodeuai yn Lloegr yn y 1910au—a oedd yn fodlon ar y cyfan i weithio o fewn yr hen draddodiad, galwodd y Delweddwyr am ddychwelyd at werthoedd Clasuriaeth, megis uniondeb y cyflwyniad, cynildeb iaith, a pharodrwydd i arbrofi â ffurfiau mydryddol anhraddodiadol, sef canu rhydd. Nodwedd briod o'r ffurf yw ei hymgais i ynysu un ddelwedd er mwyn datgelu ei hanfod. Mae hyn yn adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn celf yr avant-garde, yn enwedig Ciwbiaeth. Er bod y beirdd Delweddaidd yn ynysu gwrthrychau trwy ddefnyddio'r hyn a alwai'r bardd Americanaidd Ezra Pound yn "fanylion goleuol", mae dull ideogramaidd Pound o gyfosod enghreifftiau diriaethol i fynegi haniaeth yn debyg i ddull Ciwbiaeth o syntheseiddio safbwyntiau lluosog yn un ddelwedd.[4]
Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a blodeugerdd Ddelweddaidd rhwng 1914 a 1917 yn cynnwys gweithiau gan nifer o awduron blaena'r mudiad modernaidd, yn eu plith Ezra Pound, H.D. (Hilda Doolittle), Amy Lowell, Ford Madox Ford, William Carlos Williams, F. S. Flint, a T. E. Hulme. Llundain oedd canolfan y Delweddwyr, ac yno bu aelodau o Brydain Fawr, Iwerddon a'r Unol Daleithiau yn gweithio ac yn cymdeithasu gyda'i gilydd. Yn anarferol iawn ar y pryd, roedd nifer o awduron benywaidd yn ffigurau o bwys ym mudiad Delweddiaeth.