Enw ar un sydd yn ennill grym, dylanwad neu safle wleidyddol drwy gyffroi teimladau ei gynulleidfa yw demagog.[1] Daw'r gair, trwy'r Saesneg, o'r Roeg δημαγωγός sef "arweinydd y bobl". Fel rheol nodir demagog gan ei ragoriaeth rethregol, carisma, a galluoedd arweinyddiaeth. Poblyddwr yw'r demagog sydd yn apelio at y werin ac yn beirniadu'r elît neu leiafrif arall. Enw difrïol ydyw bron bob amser, ac yn awgrymu taw grym, arian a breintiau'r arweinydd sydd yn cymell y demagog yn hytrach na lles y werin neu ei gred yn ei achos wleidyddol.[2]