Organeb byw sy'n berchen ar organau cenhedlu gwrywol a benywol yw deurywiad. Mae'r mwyafrif o blanhigion blodeuol yn ddeuryw. Gan amlaf, creaduriaid di-asgwrn-cefn parasitig neu araf yw anifeiliaid deuryw: llyngyr, bryosoaid, trematodau, malwod, gwlithod, a chrach y môr.[1] Mae tua 65,000 o rywogaethau deuryw o anifeiliaid.[2]
Yn anaml, mae bodau dynol o gyflwr rhyngrywiol yn meddu organau rhyw allanol o un rhyw ac organau atgenhedlu mewnol o'r rhyw arall. "Rhyngrywioldeb gonadaidd gwir" yw'r enw meddygol cyfoes ar ddeurywiaeth ddynol, hynny yw presenoldeb meinwe wyfaol a cheilliol yn yr un person, naill ai yn yr un chwarren ryw (a elwir yn wygaill) neu mewn un wyfa ac un gaill. Mae'n bosib i'r fath person meddu cromosomau XX, XY, neu'r ddau, a gall yr organau allanol fod yn wrywol neu'n fenywol.[3]