Enghraifft o'r canlynol | marc diacritig, symbol IPA |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r didolnod yn ddau farc acennod gwahanol sydd (mewn defnydd modern) edrych fel ei gilydd. Mae'r ddau yn cynnwys dau ddot ¨ wedi'u gosod dros lythyren, llafariad fel arfer. Disgrifir y didolnod gan Eiriadur Prifysgol Cymru fel "arwydd a osodir uwchben un neu ddwy lefariad wahanol nesaf at ei gilydd (e.e. crëwr, däed, troëdig) a hefyd gydag eithriadau uwchben i acennod (e.e. cwmnïau, ffansïol, gweddïo, saernïaeth) i ddynodi eu bod i'w seinio ar wahan." [1]
Mewn systemau cyfrifiadurol, mae gan y ddwy ffurf yr un pwynt cod (cod deuaidd). Gall eu hymddangosiad mewn print neu ar sgrin amrywio rhwng ffurfdeipiau ond yn anaml o fewn yr un ffurfdeip. Weithiau defnyddir termau tramor am y ddidolnod yn y Gymraeg gan gynnwys; diaeresis [a] (/ daɪˈɛrəsɪs, -ˈɪər-/ dy-ERR-ə-sis, -EER-; [2] a elwir hefyd yn y trema) a'r umlaut (/ ˈʊmlaʊt/) o'r enw Almaeneg am y diacritig.