Enghraifft o: | anime and manga genre |
---|---|
Yn cynnwys | ecchi manga |
Enw brodorol | エッチ |
Gwladwriaeth | Japan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Slang yn yr iaith Japaneg ydy Ecchi (エッチ etchi, pronounced [et.tɕi]) am ffantasi erotig ac awgrymiadau rhywiol. Fel ansoddair mae'n golygu "budur", "drwg" neu "fochaidd"; fel adferf (ecchi suru) mae'n golygu gwneud rhywbeth drwg neu anweddus fel cysgu efo rhywun; fel enw mae'n golygu person sy'n cael ei ystyried yn ecchi. Mae'n air tebyg i ero, ond nid mor galed a hentai. Yn ol dull rhufeinig Hepburn o sillafu geiriau Japaneeg, y dull cywiro o sillafu'r gair yw etchi, ond y dull amlaf a mwyaf poblogaidd yw ecchi. Nid oes gan ecchi ystyr mor gryf, na mor gwyrdroedig a'r gair 'hentai'.
Does dim golygfeydd o gyfathrach rywiol mewn ecchi, ond mae llawer o luniau 'meddal' e.e. o nicyrs merched. Mabwysiadwyd y gair ecchi gan Ewropeaid i ddisgrifio gweithiau celf ag arlliwiau rhywiol iddynt. Yn niwylliant y gorllewin, mae bellach yn cyfeirio at rywioldeb meddal neu chwareus. Nid yw gweithiau a ddisgrifir fel ecchi gan orllewinwyr yn dangos cyfathrach rywiol nac organau rhywiol, ond cyfeirir at themâu rhywiol. Caiff ecchi ei ganfod yn y mwyafrif o gomedi shōnen a seinen ac anime harem.[2][3]
Mae ecchi reit boblogaidd mewn manga Shōnen, manga Seinen ac anime harem.
Yn yr 1960au, roedd y gair yn golygu "rhyw" yn yr ystyr cyffredinol, ond erbyn 1965, roedd hyd yn oed plant oed cynradd yn defnyddio'r gair etchi kotoba am "rhywiol". Yn y 1980au roedd yn golygu caru (etchi suru) (to [make] love).[4][5] Mae debygol i'r gair darddu o symbol cyntaf y gair hentai (変態),[6]