Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 935, 928 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,384.41 ha |
Cyfesurynnau | 53.218°N 3.791°W |
Cod SYG | W04000117 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Eglwys-bach[1][2] neu Eglwysbach. Hyd at tua 1904 yr enw a ddefnyddid yn lleol oedd "Banc Llan". Mae'r pentref yn gorwedd ar lôn wledig mewn dyffryn bychan yn y bryniau sy'n ymestyn i'r dwyrain fel cainc o Ddyffryn Conwy, sef Dyffryn Hiraethlyn. Mae tua 3 milltir i'r de o bentref Llansanffraid Glan Conwy (Glan Conwy), rhwng cymunedau bychain Graig a Pentre'r Felin. Mae'r plwyf yn gorwedd rhwng plwyfi Llansanffraid a Maenan.
Mae'r pentref yn adnabyddus am Sioe Eglwysbach, sioe amaethyddol a gynhelir yno ym mis Awst bob blwyddyn, ac sy'n cynnwys arddangosfeydd gwartheg, defaid a cheffylau, arddangosfeydd blodau, reidiau ffair a stondinau amrywiol.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 54% o drigolion Eglwysbach yn medru'r Gymraeg, ffigwr sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer sir Conwy ond sy'n sylweddol llai nag yn y gorffennol, yn bennaf oherwydd mewnfudo i'r ardal a diffyg tai fforddiadwy i bobl ifainc leol.
Tua milltir i'r gogledd o'r pentref ceir Gerddi Bodnant, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.