![]() | |
Math | Kuchen, sheet cake ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | siwgr, blawd, menyn, llaeth, cwarc ![]() |
Enw brodorol | Eierschecke ![]() |
![]() |
Cacen o Sacsoni a Thüringen yw eierschecke. Mae'n gacen haenog gyda haenen sylfaen o gacen, haen ganol o gacen gaws cwarc (math o caws ceuled) a haen uchaf o gwstard fanila. Mae rhannau ohono wedi'u gorchuddio â sglein wedi'i wneud o hufen, wy cyfan, siwgr a blawd. Mae'r term yn tarddu o'r gair Eier (wyau) ac enw dilledyn i ddynion o'r 14eg ganrif o'r enw Schecke a oedd yn cynnwys tiwnig o hyd canolig gyda gwasg dynn iawn ac a wisgwyd â fath arbennig o wregys clun.