Enghraifft o: | bone organ type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | asgwrn afreolaidd |
Rhan o | y glust ganol |
Cysylltir gyda | drwm y glust, Eustachian tube |
Yn cynnwys | morthwyl y glust, eingion y glust, Gwarthol y glust |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r esgyrnynnau (a elwir hefyd yn esgyrnynnau clywedol) yn dri asgwrn yn y glust ganol. Maent ymhlith yr esgyrn lleiaf yn y corff dynol. Maent yn gwasanaethu i drosglwyddo seiniau o'r awyr i'r cochlea. Byddai absenoldeb yr esgyrnynnau clywedol yn golygu colli clyw cymedrol neu ddifrifol. Mae'r term "esgyrnyn" yn golygu "asgwrn bach". Er y gallai'r term gyfeirio at unrhyw asgwrn bach yn unrhyw fan yn y corff, fel arfer mae'n cyfeirio at esgyrn bach y glust. Weithiau bydd yr esgyrn yn cael eu galw'n osigl o'r Lladin am fân asgwrn Ossicle[1].