Mae Feneteg yn iaith Indo-Ewropeaidd farw a sieredid yn hen dalaith Rufeinig Venetia (yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal heddiw).
Roedd talaith Venetia'n cynnwys gwastadedd Venetia ac Istria ynghyd â'r mynyddoedd Alpaidd i'r gogledd.
Erys peth anghytundeb ymhlith ieithyddwyr ynglŷn â statws Feneteg ond fe'i derbynir gan ganran o ysgolheigion yn gangen ar wahân yn y teulu Indo-Ewropeaidd.
Mae olion yr iaith Feneteg i'w gweld mewn tua 200 o arysgrifau cynnar sy'n dyddio o'r 6ed ganrif C.C. hyd y canrifoedd cyntaf Cyn Crist, y rhan fwyaf ohonynt yn dod o Este (yr Adeste glasurol). Mae'r arysgrifau wedi'u hysgrifennu mewn gwyddor o'r dosbarth Gogledd Etrusgiaidd.
Ildiodd yr iaith yn raddol i'r Lladin ar ôl i'r Rhufeiniad ymsefydlu yn Aquileia o 183 C.C. ymlaen. Dichon bod tiriogaeth yr iaith wedi'i chrebachu i'r bryniau yn ystod y canrifoedd canlynol ac iddi farw allan yn yr ail a'r 3edd ganrif C.C..