![]() | |
Math | proses peirianyddol ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1947 ![]() |
![]() |
.
Ffracio (neu ffracio hydrolig) yw'r dull o dorri creigiau drwy wasgu gyda hylif sy'n cynnwys dŵr, tywod a chemegolion. Ceir ffracio naturiol ar adegau, e.e. mewn daeareg ceir gwythiennau a deics.[1] Mae'r hylif yn cael ei bwmpio dan bwysau enfawr i dyllau a wnaed gan ddril mewn craig, sy'n achosi i'r graig gracio ymhell o dan wyneb y ddaear. Drwy'r craciau hyn rhyddheir nwy, petroliwm a dŵr hallt. Mae'r gronynnau tywod yn yr hylif yn dal pob hollt bychan ar agor, sy'n caniatáu i'r nwyon a'r petroliwm ddianc o'r graig, a'i sugno i fyny i'r wyneb.
Dechreuwyd arbrofi â ffracio hydrolig yn 1947, a chychwynodd y gwaith masnachol cyntaf yn 1950. Yn 2012 roedd ffracio hydrolig wedi cymryd lle ar 2.5 miliwn o adegau, mewn gwahanol rannau o'r byd gyda ffynhonnau olew a ffynhonnau nwy. Roedd dros miliwn o'r rhain wedi digwydd yn Unol Daleithiau America.[2].
Mae ffracio'n destun dadl ym mhob cwr o'r byd, gyda rhai yn ei weld yn fwy 'gwyrdd' nag ynni niwclear ac yn ateb sydyn i'r broblem o ryddhau hydrocarbonau, ar y naill law.[3][4] Ar y llaw arall ceir dadleuon bod ffracio yn medru halogi'r gronfa ddŵr tanddaearol, yn halogi'r aer, yn creu sŵn ac y gall hyn effeithio ar iechyd pobl yn ogystal â'r amgylchedd. Cred gwrthwynebwyr ffracio hefyd y gall ffracio sbarduno daeargrynfeydd.[5]
Pan fo ffawtiau naturiol mewn craig, gall ffracio achosi problemau seismig; gwaharwddwyd ffracio mewn ardaloedd lle gwyddys bod y broblem hon yn bodoli; ond ar adegau mae'r ffawltiau'n bodoli heb yn wybod i'r daearegydd a gall chwistrellu hylif dan bwysau achosi gweithgaredd seismig a all, yn ei thro, achosi daeargrynfeydd bychain a difrod i adeiladau.[6]