Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.306158°N 3.246254°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentrefan yng nghymuned Mostyn, Sir y Fflint, Cymru, yw Glan-y-don[1] ( ynganiad ). Saif hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Mostyn, ar lan aber Afon Dyfrdwy, tua dwy filltir a hanner i'r gogledd o Dreffynnon. Hanner milltir i'r dwyrain ceir pentref bychan Llannerch-y-môr. Dim ond cilfach o dir sy'n gorwedd rhwng y pentref a Mostyn. Rhed briffordd yr A548 heibio i'r pentref. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn pasio tua chwarter milltir i'r gogledd ond does dim gorsaf i'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[3]