Glyff

Glyff
Mathgraffem, nod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amrywiol glyffiau; mae pob un yn alograff o'r graffem "a".

Mewn teipograffeg, mae glyff (/ɡlɪf/) yn symbol elfennol o fewn set o symbolau y cytunwyd arno, a fwriadwyd i gynrychioli llythrennau darllenadwy at ddibenion ysgrifennu. Ystyrir glyffiau'n farciau unigryw sy'n cyd-fynd â sillafu gair neu gyfrannu at ystyr benodol yr hyn a ysgrifennir, gyda'r ystyr hwnnw'n ddibynnol ar ddefnydd diwylliannol a chymdeithasol. Gelwir dau neu fwy o glyffiau sydd â'r un arwyddocâd, boed yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol neu'n cael eu dewis yn dibynnu ar gyd-destun, yn "alograffau" o'i gilydd.

Mewn cyferbyniad, yn y rhan fwyaf o ieithoedd a ysgrifennwyd yn yr wyddor Ladin, nid yw'r dot ar y lythyren i yn glyff am nad yw'n cyfleu unrhyw ystyr unigryw, ac mae i lle mae'r dot wedi'i hepgor yn ddamweiniol yn debygol o gael ei adnabod yn gywir. Ond yn Nhwrcio, byaddai'n sicr yn cael ei gyfri'n glyff oherwydd bod gan yr iaith honno ddwy fersiwn wahanol o'r lythyren "i" - gyda dot a heb dot. Yn gyffredinol, felly, nid yw'r marciau ar wahân hyn yn glyffiau oherwydd nad oes ganddynt ystyr cyflawn, unigryw. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae marciau ychwanegol yn cyflawni rôl diacritigau, i wahaniaethu llythrennau gwahanol. Mae marciau ychwanegol o'r fath yn cael eu cyfri'n glyffiau. Yn gyffredinol, mae diacritig yn glyff, hyd yn oed os yw'n cydgyffwrdd â gweddill y lythyren fel y cedilla yn Ffrangeg, yr ogonek mewn sawl iaith, neu'r strôc ar "Ł" Pwyleg.

Glyff Gwareiddiad y Maya, a ddefnyddid i nodi Diwrnod 10 ar y Calendr Tzolk'in.

Fel arfer, bydd rhai llythrennau fel "æ" yng Ngwlad yr Iâ a'r "ß" yn yr Almaen yn cael eu hystyried yn glyffiau, ond eto, roeddent yn wreiddiol yn llythrennau dyblyg. Dros amser maent, fodd bynnag, wedi dod yn llythrennau cyflawn, ac mae'r ieithoedd hyn yn eu trin fel llythrennau ar wahân. Fodd bynnag, ni ellir dadlau nad yw clymlythyren fel "ſi", a gaiff ei drin mewn rhai mathau o deip, fel uned sengl, yn glyff, gan mai dim ond rhan fechan (sef nodwedd alograffig) o'r teip yw hwn, ac sy'n cynnwys mwy nag un graffem.[1]

Mewn llawysgrifen glwm, mae hyd yn oed geiriau hir, yn aml, yn cael eu "cydgysylltu", heb i'r ysgrifbin adael y papur neu't tabled, a bydd ffurf pob llythyren ysgrifenedig yn aml yn amrywio, yn ddibynnol ar ba lythyrau sy'n dod o'i blaen neu yn ei dilyn, ond nid yw hynny'n gwneud y gair cyfan yn un glyff.

  1. "Maya". Ancientscripts.com. Cyrchwyd 6 Chwefror 2018.

Glyff

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne