Gorfetysen

Gorfetysen
Gorfetysen goch.
Math o gyfrwngtacson Edit this on Wikidata
Mathplanhigyn llysieuaidd, planhigyn eilflwydd, planhigyn defnyddiol Edit this on Wikidata
Safle tacsoncultivar group Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonBeta vulgaris vulgaris Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Deil-lysieuyn yw gorfetysen[1] neu fetysen arian[1] sydd yn un o bedwar cyltifar y fetysen (Beta vulgaris), yn nheulu'r amaranthau. Yn wahanol i'r tri chyltifar arall—betysen goch, betysen y maes, a betysen siwgr—nid oes gan yr orfetysen wreiddiau mawr. Planhigyn eilflwydd ydyw, ond fel arfer fe'i tyfir yn flynyddol; wrth flodeuo yn yr ail flwyddyn, mae'r planhigyn yn troi'n hynod o chwerw.[2]

Tyfir yr orfetysen am ei ddail a deilgoesau lliwgar a maethlon, llawn fitaminau A ac C, ac iddynt flas chwerw. Mae gorfetysen ffres yn hynod o ddarfodus, felly fe'i tyfir fel rheol yn y cartref neu ar gyfer y farchnad leol. Mae'n hawdd i'w meithrin yn yr ardd lysiau, ac yn cynhyrchu dail newydd trwy gydol y tymor tyfu. Bwyteir dail bychain, heb eu coginio, mewn salad. Wrth goginio mae chwerwder y dail yn lleihau, ac yn aml câi dail mawr eu ffrio'n ysgafn neu eu dodi mewn cawl.[2]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, "chard".
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Chard. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2022.

Gorfetysen

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne