Math | brandi o soeg grawnwin ![]() |
---|---|
Gwlad | yr Eidal ![]() |
Enw brodorol | Grappa ![]() |
![]() |
Gwirod a wneir o soeg grawnwin yw grappa, ac mae ganddo ganran o alcohol sy'n amrywio rhwng 38 a 60 gradd. Mae'n cael ei ddistyllu o soeg grawnwin, hynny yw, "y gweisgion sy'n weddill ar ôl bragu"[1] sydd heb unrhyw ddefnydd yn y broses flaenorol o wasgu'r gwin. Fel diod, caiff ei gysylltu gyda'r Eidal, Swistir Eidalaidd, yr Ariannin, Bwlgaria, Uruguay a gwledydd eraill.
Yr enw generig yn Sbaeneg ar y diod hwn yw Orujo neu aguardiente, ac ym mhob gwlad ceir enw gwahanol, yn dibynnu ar yr iaith a'r traddodiad lleol: felly, mae brand brandi yn rhan o'r un math o ddiod brandi Ffrengig, grappa Eidaleg neu Slofeneg, bagaço Portiwgalaidd neu'r tsipouros Groegaidd.