Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 420 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Castell Gwalchmai |
Cyfesurynnau | 51.7264°N 5.0857°W |
Cod SYG | W04000431 |
Cod OS | SM899061 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Herbrandston.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gorllewin o dref Aberdaugleddau ar lan Afon Cleddau lle mae Sandyhaven Pill yn ymuno a'r brif afon.
Yn yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i'r Santes Fair, mae delw o farchog o'r 14g.
Pentref diolchgar yw Herbrandston - pentref heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf, lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r rhyfel.
Ceir purfa olew yn perthyn i Elf Murco gerllaw, gyda glanfa ar gyfer tanceri.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 401.