Math o gyfrwng | military rank, Slavic title |
---|---|
Math | arweinydd milwrol, Offices in the Polish–Lithuanian Commonwealth |
Yn cynnwys | Great Hetman of the Crown |
Gwladwriaeth | Brenhiniaeth Bohemia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Teitl milwrol a gwleidyddol yw hetman (Wcreineg: гетьман) a ddefnyddiwyd yn hanesyddol yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop. Daw'r ffurf Bwyleg hetman o'r gair Almaeneg Hauptmann, sef capten neu bennaeth.
Rhoddwyd y teitl yn gyntaf yn y 15g i arweinwyr lleol yn Nheyrnas Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania, a alwyd i wasanaeth milwrol yn ystod cyfnodau o ryfel yn unig. Yn ddiweddarach fe'i defnyddiwyd i ddisgrifio'r pencadlywyddion a benodwyd i arwain byddinoedd sefydlog Brenin Pwyl ac Uchel Ddug Lithwania. Sefydlwyd rheng barhaol yr Hetman Mawr (Pwyleg: hetman wielki) yng Ngwlad Pwyl ym 1505, ac ym 1527 diffiniwyd hawliau a dyletswyddau'r hetman am y tro cyntaf wrth enwebu Jan Tarnowski am y swydd: rhoddwyd iddo rym llwyr dros luoedd Coron Pwyl, gan gynnwys yr hawl i benderfynu ar orchmynion a rheolau'r fyddin, i arolygu milwyr, ac i fod yn farnwr mewn achosion o dor-cyfraith gan filwyr. Fodd bynnag, nid oedd yr hetman yn bennaeth ar filwyr gorfod. Wedi 1581, byddai Brenin Pwyl—teyrn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd—yn penodi dau Hetman Mawr a dau Hetman Maes (dau yr un i Wlad Pwyl a Lithwania) am oes.[1] Dirprwy i'r Hetman Mawr oedd yr Hetman Maes, a byddai'r Hetman Mawr yn oruchaf arweinydd y fyddin os nad oedd y brenin ei hun ar faes y gad.[2] Cyfyngwyd ar rymoedd yr hetman yn sgil sefydlu Adran Filwrol y Cyngor Parhaol ym 1776, a diddymwyd y swydd wedi cwymp y Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd ym 1795.[1]
Daeth y teitl hetman (Wcreineg: отаман, Rwseg: атаман) hefyd i ddynodi pencadlywyddion y Cosaciaid. O'r 1570au ymlaen penodwyd hetmaniaid i arwain y Cosaciaid Cofrestredig, unedau milwrol mewn gwasanaeth y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, er y byddai'r Pwyliaid yn osgoi defnyddio'r teitl. Mabwysiadwyd yr enw yn yr 16g gan arweinydd Llu Zaporozhzhia yng Nglan Dde Wcráin, ac yn sgil Gwrthryfel Khmelnytsky (1648–57) dyrchafwyd yr hwnnw yn bennaeth ar wladwriaeth yr Hetmanaeth. Rhoddwyd y teitl hefyd i arweinydd y Cosaciaid yng Nglan Chwith Wcráin, dan dra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Rwsia, o'r 17g hyd at 1764. Ym 1918, adferwyd y teitl gan Pavlo Skoropadsky, pennaeth y Wladwriaeth Wcreinaidd.[3]
Esgorodd diwygiadau milwrol 1776 ar gyfyngu pwerau'r hetmaniaid. Diddymwyd swydd yr Hetman wedi trydydd rhaniad Gwlad Pwyl yn 1795.