Hominins Amrediad amseryddol: | |
---|---|
Penglog Sahelanthropus tchadensis, aelod cynharaf llinell yr hominin, yn ôl llawer. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae |
Llwyth: | Hominini Gray, 1825 |
Teiprywogaeth | |
Homo sapiens Linnaeus, 1758 | |
Genera | |
Subtribe Hominina Subtribe Panina Islwyth Australopithecina |
Llwyth o fewn isdeulu'r Homininae yw Hominini. Mae gan y llwyth hwn dri is-lwyth: Hominina, a'i genws Homo, sef y dynolion; Australopithecina, sy'n cynnwys sawl genera diflanedig, sef yr Awstralopithesiniaid; a Panina, a'i un genws Pan, sef y tsimpansîaid.[1][2] Gelwir aelodau cytras y llwyth hwn, gan gynnwys Homo a'r rhywogaethau Awstralopithesinaidd hynny a ffurfiwyd ar ôl hollti oddi wrth y tsimpansîaid, yn epaod dynaidd.
Cangen ddynolaidd yw'r is-lwyth Hominina; hynny yw, dynolion y genws Homo’n unig. Cynnigiodd anthropolegwyr y term tacsonomig Hominini ar sail y dylai'r rhywogaeth lleiaf tebygol gael ei wahanu oddi wrth y ddau arall. Y tsimpansî cyffredin a bonobo'r genws Pan yw perthnasau agosaf y dynolion, o ran esblygiad. Maen nhw'n rhannu'r un hynafiad â dynolion, hynafiad a drigai ar y Ddaear 4-7 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP).[3] Mae ymchwil a wnaed yn 1973 gan Mary-Claire King yn dangos fod 99% o'r DNA yn gyffredin rhwng y tsimpansî a'r bod dynol.[4] Addaswyd y ffigwr hwn yn ddiweddarach gan ymchwilwyr i 94%.[5]