Canol y pentref | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 908, 806 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,075.37 ha |
Cyfesurynnau | 51.67°N 4.95°W |
Cod SYG | W04000943 |
Cod OS | SM960007 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Hundleton.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gorllewin o dref Penfro gerllaw glan Afon Penfro, sy'n rhan o aber Afon Cleddau.
Heblaw pentref Hundleton ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Maiden Wells, Pwllcrochan a Rhoscrowdder. Ceir purfa olew yn perthyn i Texaco yn y gymuned, gydag angorfa ar gyfer tanceri hyd at 280,000 tunnell fetrig. Bu'r naturiaethwr R. M. Lockley yn byw yn Orielton House. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 780.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]