Hyrli

Hyrli
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, sport with racquet/stick/club Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon tîm, chwaraeon peli, gaelic games Edit this on Wikidata
Hyd70 munud Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Chwaraeon tîm Wyddelig a honnir ei fod o darddiad Celtaidd yw hyrli[1] (Gwyddeleg: iomáint neu úrhúlíocht; Saesneg: hurling). Mae gan y gêm wreiddiau cynhanesyddol, credir iddi gael ei chwarae ers o leiaf 3,000 o flynyddoedd,[2] ac fe'i hystyrir fel y gamp maes gyflymaf yn y byd.[2][3]

Chwaraeir y gêm yn Iwerddon yn bennaf ac mae'n debyg i camanachd (shinty) sy'n cael ei chwarae yn yr Alban. Mae fersiwn benywaidd o'r gêm Wyddelig o'r enw camógaíocht (Camogie).

Mae'n cael ei lywodraethu gan y Gymdeithas Athletau Gwyddelig. Pencampwriaeth Iwerddon gyfan yw prif gystadleuaeth y gamp hon, sy'n cael ei ymgypris gan dimau o wahanol siroedd Gweriniaeth Iwerddon a siroedd Gogledd Iwerddon, yn ogystal â thîm cynrychioliadol o Lundain (Y Deyrnas Unedig) ac un arall o Efrog Newydd (Unol Daleithiau). Mae rownd derfynol y bencampwriaeth yn cael ei hymladd yn stadiwm Parc Croke yn Nulyn.

Mae hyrli'n cael ei chwarae ledled y byd, ac mae'n boblogaidd ymhlith aelodau alltud Iwerddon mewn gwahanol leoliadau yng Ngogledd America, Ewrop, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica a'r Ariannin, er heb unrhyw gynghrair broffesiynol.

  1. "Hurling". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2024.
  2. 2.0 2.1 Cramer, Ben. "Pitch Man". Forbes. 23 April 2007.
  3. Laurence Baker, Emily (25 Gorffennaf 1999). "WHAT'S DOING IN; Dublin". The New York Times. Cyrchwyd 3 Mai 2008.

Hyrli

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne